Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Control 2K Ltd. Rydym am weld cymaint o bobl â phosib yn defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch cyn pen 7 diwrnod.
Os na allwch weld y map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’, anfonwch e-bost atom neu codwch y ffôn https://www.industrywales.com/cartref/cyswllt/ am gyfarwyddiadau.
Rydym ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella hygyrchedd y wefan hon. Os cewch chi broblem sydd heb ei rhestru ar y dudalen hon neu os ydych chi’n teimlo nad ydym yn cwrdd â gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â: Mike Gillard mgillard@industrywales.com.
Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os ydych yn anhapus â’r ffordd rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Rydym ni’n cynnig gwasanaeth cyfnewid testun i bobl sy’n B/byddar, sydd â nam ar eu clyw neu sydd â nam ar eu lleferydd.
Mae gan ein swyddfeydd system dolen sain, neu os byddwch yn cysylltu â ni cyn eich ymweliad gallwn drefnu dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Darganfod sut i gysylltu â ni https://www.industrywales.com/cartref/cyswllt/.
Mae Industry Wales (Diwydiant Cymru) wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.
Problemau enghreifftiol:
Rydym wedi asesu’r gost o drwsio’r problemau hyn ac yn credu y byddai gwneud hynny nawr yn faich anghymesur o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn gwneud asesiad arall y tro nesaf y byddwn yn ailddatblygu’r wefan yn sylweddol, a fydd yn debygol o fod ymhen 12 mis.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 18 Ionawr 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Control 2K Ltd.
Profwyd gennym gan ddefnyddio gwasanaeth dilysu marcio (W3C) a phrofi amrywiaeth o fathau o gynnwys.
Gwnaethom brofi’r canlynol:
Paratowyd y datganiad hwn ar 18 Ionawr 2021. Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Ionawr 2021.